OPGYW CYFARFODYDD Â CHYNADLEDDAU

Llun ystafell cyfarfodydd a chynadleddau

Mae cyfleusterau llawn ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd yn y Plas. Fe allem gynnig pecynnau i’ch siwtio gan gynnwys gwasanaeth arlwyo. Mae’r safle hefyd yn boblogaidd ar gyfer darlithoedd a chyngherddau cerdd gan fod delwedd sain wych o fewn yr adeilad.

Gallwn gynnig yr offer technegol arferol ar gyfer eich anghenion, gan gynnwys Taflunwyr Digidol, ‘Flip Chart’ a sgrin wen.

Mae'r Orielau yn amrywio mewn maint gan eistedd 30 hyd at 100 o bobl yn gyfforddus.

Achlysuron Arbennig

Llun ystafell cyfarfodydd a chynadleddau

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn safle delfrydol ar gyfer dathlu achlysur arbennig, fel bedydd neu barti pen-blwydd/priodas. Fe allem osod unrhyw un o’r Orielau i’ch anghenion (gwelwch lun gyferbyn).

Rydym hefyd yn gosod ystafelloedd i godi arian at elusennau ac achosion da. Mae 20% o ddisgownt i elusen sydd wedi’ chofrestru.

Llety a Phrydau

Gallwn letya hyd at 12 o bobl yn yr Oriel. Mae'r llety hunan darpar wedi derbyn gradd 3 Seren gan Fwrdd Croeso Cymru. Mae rhan fwyaf o ystafelloedd gydag ystafell ymolchi neu gyda chawod neu fasn. Ceir un ystafell ar y llawr isaf gyda darpariaethau llawn ar gyfer yr anabl, cadair symudol i’r llawr cyntaf a lifft yn y prif adeilad.

Llun o bwydlen y caffi

Darperir y prydau gan Caffi'r Oriel, sydd hefyd yn rheoli'r ystafell de. Maent yn defnyddio cynnyrch lleol lle’n bosib a darperir prydau gyda blas Cymreig. Trefnir unrhyw arlwyo yn uniongyrchol gyda'r Tŷ Bwyta.

Prisiau

Mae’r prisiau am ddefnyddio ystafell yn yr Oriel yn ddibynnol ar eich anghenion

Cyfyngiadau

Oherwydd y drwydded alcohol a chyfyngiadau yswiriant, mae rhai cyfyngiadau ar y defnydd o’r Oriel. Mae’n ANGENRHEIDIOL cadw at y rhain.

  • NI CHANIATEIR YSMYGU o gwbl yn yr adeilad. Bydd ein larwm tân sensitif yn galw’r Frigâd Dân os bydd unrhyw fwg yn yr adeilad.
  • Rhaid i’r parti fin nos ddod i ben erbyn 11.30yh.
  • Ni chaniateir diodydd i fyny’r grisiau.
  • Bydd rhaid talu am unrhyw doriadau.
  • Cysylltwch i logi ystafell neu i drafod eich anghenion.

Prisiau Llogi Ystafell

Oriel Eistedd (Math Theatr) Pris yn y dydd (9-5) Pris nos
Oriel Kyffin Williams (Llawr Gwaelod) 100 o bobl £50 yr awr + TAW £75 yr awr + TAW
Oriel Ap Tomos (Llawr Gwaelod) 50 o bobl £35 yr awr + TAW £60 yr awr + TAW
Y Neuadd (Llawr Gwaelod) 100 o bobl £100 yr awr + TAW £150 yr awr + TAW
Oriel Stiwdio 25 o bobl £25 yr awr + TAW £50 yr awr + TAW

Cysylltwch am fanylion llawn neu i wneud apwyntiad i drafod eich anghenion.

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top