Hanes Oriel Plas Glyn-Y-Weddw

Hanes CELFYDDYDOL

Llun o Plas Glyn-Y-Weddw

Mae Plas Glyn-y-Weddw yn un o orielau harddaf Cymru. Fe adeiladwyd ‘nôl yn 1857 fel tŷ gweddw i'r Fonesig Elizabeth Jones Parry o 'Stad Madryn, ac o'r cychwyn cyntaf roedd y tŷ yn gartref i gasgliad drudfawr o waith celf.

Yn 1896 fe brynwyd y Plas gan wr busnes llwyddianus o Gaerdydd o'r enw Solomon Andrews, agorodd y drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Yn ystod y ganrif olynol bu i'r Plas brofi nifer o newidiadau, ac erbyn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif roedd ar ei ffordd i fod yn adfail. Gyda llafur cariad bu i gwpwl lleol o’r enw Dafydd a Gwyneth ap Tomos achub y dydd a chychwyn ar y gwaith ail-adeiladu. Gyda arian Loteri prynwyd y Plas yn 1997 gan gorff o Gyfeillion ac ers dros ddegawd bellach mae yr adeilad yn cael ei redeg gan Ymddiredolaeth Elusennol.

Heddiw ym Mhlas Glyn-y-Weddw gwelir waith celf prif artistiaid Cymru a thu hwnt mewn arddangosfeydd misol. Cynhelir hefyd weithdai celf i oedlion a phlant, cyngherddau, darlithoedd a ffeiriau crefft, ymysg gweithgareddau amrywiol eraill.

Heddiw ym Mhlas Glyn-y-Weddw gwelir waith celf prif artistiaid Cymru a thu hwnt

Gyda mynediad am ddim i’r oriel, tŷ bwyta a siop grefftau o safon, mae rhywbeth at ddant pawb ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Dewch i fwynhau’r awyrgylch hamddenol sydd yma - mae croeso arbennig i deuluoedd a mynediad lawn i bobl gydag anableddau.

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top