Hanes Oriel Plas Glyn-Y-Weddw

Oriel HYNAF CYMRU

Adeiladwyd yn 1856/57 i’r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry
Edrych i lawr y grisiau

Bu cysylltiad hir rhwng y plas, a adeiladwyd yn 1856/57 i’r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, Madryn â chelfyddyd. Mae’r adeilad yn enghraifft ragorol o blasty Gothig Fictoraidd wedi ei leoli ar arfordir deheuol Penrhyn Lŷn ac wedi ei restru Gradd II* gan CADW. Fe’i adeiladwyd yn benodol i gadw casgliad celf bersonol y Weddw a gyda’i risiau Jacobeaidd mawreddog, ei dô trawsgordd a’i ddeg ystafell bwrpasol, deil i arddel yr enw Oriel yng Nglyn-y-Weddw.

Wedi marw’r Fonesig Elisabeth ym 1883, rhoddwyd y Plas ar les i’r teulu Angerstein, gan ei mab Syr Duncombe Love Jones Parry, barwnig bywiog ac A..S dros Gaernarfon., a fu’n gysylltiedig â sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

‘Roedd y teulu Angerstein yn fancwyr a chasglwyr celf nodedig o dras Rwsiaid. Yn wir roedd son fod yr hen Mr Angerstein ei hun yn blentyn siawns i’r Czarina Anna. Heddiw fe welir cerrig beddi anifeiliaid anwes yr Angersteins yng ngerddi’r Plas.

Hen lun o'r Plas

Ym 1896, gwerthwyd y Plas i deulu Solomon Andrews o Gaerdydd – pobl busnes a ddatblygodd West End ym Mhwllheli, gan sefydlu rheilffordd tramiau ceffyl rhwng yr Oriel a Phwllheli ac agor y plasty i’r cyhoedd. Cynigiai’r Plas gelf, cerddoriaeth, dawnsfeydd ac adloniant amrywiol i ymwelwyr a phobl leol.

Goroesodd y Plas ddau ryfel byd ac yna fe’i prynwyd yn 1979 gan Dafydd a Gwyneth ap Tomos. Trwy lafur cariad a buddsoddiad enfawr adnewyddwyd yr Oriel yn yr 80au a’r 90au cynnar gan ffurfio corff o Gyfeillion yr Oriel, sydd erbyn hyn gyda dros 1200 o aelodau. Ym 1996, prynwyd yr Oriel gan Ymddiriedolaeth Elusennol o blith y Cyfeillion gydag arian loteri, ERDF a chyfraniadau eraill. Ymgymerwyd â rhaglen sylweddol o adnewyddu yn y blynyddoedd dilynol ac mae’r elusen bellach wedi bod wrth y llyw am dros ddegawd.

Ym 1896, gwerthwyd y Plas i deulu Solomon Andrews o Gaerdydd

Erbyn hyn, mae’r Oriel yn ganolfan gelfyddyd ffyniannus gyda’i chasgliad ei hun o luniau a phrintiau, ac arddangosfa bwysig o borslen Abertawe a Nantgarw ar fenthyg gan deulu’r Andrews, disgynyddion y Solomon Andrews a agorodd y Plas gyntaf fel oriel gelf gyhoeddus.

Cedwir yma hefyd ddwy gofeb garreg enwog o seintiau lleol Cymreig o’r 6ed Ganrif ac arddangosfa barhaol o hanes yr Oriel.

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top