Canlyniad ydoedd o freuddwyd un dyn, sef William Billingsley
Mae casgliad pwysig o borslen Nantgarw ac Abertawe i'w gweld yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw ar fenthyciad tymor hir gan deulu'r Andrews.
Cynhyrchwyd y porslen rhwng 1813 a 1820. Canlyniad ydoedd o freuddwyd un dyn, sef William Billingsley, a hyfforddwyd fel addurnwr y gwaith enwog yn Derby, ac a gododd i fod yn brif addurnwr yno.
Ei freuddwyd oedd cynhyrchu’r porslen ceinaf yn y byd: y farn gyffredinol ar y pryd oedd mai yn y ffatri yn Sèvres yr oedd hwn i’w gael. Wedi ymgais fer, aflwyddiannus, i redeg gwaith porslen yn Pixton, treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio fel addurnwr ar ei liwt ei hun, yn gyntaf yn Mansfield ac yna yn Torskey.
Yna, ym 1807, pan wrthododd ei wraig fynd gydag ef, aeth gyda’i ddwy ferch a’i bartner Samuel Walker, i chwilio am waith. Ar wahân i’r ardal Crochenwaith Swydd Stafford, yr unig ganolfannau cerameg eraill lle gallasai gael gwaith oedd Coalport, Caerwrangon, Bryste ac Abertawe.
Aflwyddiannus oeddent ym mhob man, ac erbyn iddynt gyrraedd Abertawe, yr oeddent mewn tlodi dirfawr. Tra’r oeddent yno clywyd si fod agoriad i Billingsley yn ffatri Barr, Flight a Barr yng Nghaerwrangon. Mae’n debyg iddynt gymryd y ffordd dros y tir i Gaerwrangon trwy Nantgarw, Caerffili a Chasnewydd.
Yn y diwedd, cyflogwyd nid yn unig Billingsley ond hefyd Samuel Walker gan Barr, Flight a Barr. Priododd Samuel Walker â Sarah Billingsley ym 1812 - yr oedd hithau yn dechnegydd crochenwaith o’r radd flaenaf, ac fe gyflogwyd Lavinia Billingsley hefyd. Yng Nghaerwrangon y treuliodd Billingsley a Walker amser yn y ffatri ac yn eu cartref yn arbrofi gyda math newydd o odyn ac yn cynhyrchu pastau. Erbyn mis Tachwedd 1812, llwyddasant i gynhyrchu samplau, a daethant i gytundeb gyda Barr, Flight a Barr i beidio â datgelu eu proses gyfrinachol i neb arall.
Fodd bynnag, doedd dim cynhyrchu, ac felly ym mis Tachwedd 1813 gadawyd Caerwrangon am Nantgarw, lle prydleswyd tŷ a thir ger Gamlas Morgannwg. Yma y cychwynasant eu gwaith crochenwaith, gan nad oedd dim yn y cytundeb i’w hatal rhag defnyddio’r broses eu hunain. £250 o gyfalaf oedd ganddynt: mewn cyferbyniad, yn y ffatri yn Sèvres derbyniwyd cefnogaeth y wladwriaeth a bu bron iddi wagio coffrau brenhinol Louis XV.
Buan iawn y defnyddiwyd y cyfalaf, ac roedd llawer iawn o’r llestri yn torri. Derbyniasant gymorth gan William Weston Young, syrfëwr a oedd yn byw yn y Dre Newydd, Porthcawl. Ym 1814 gwnaethant gais aflwyddiannus am grant llywodraeth. Fodd bynnag clywodd Syr Joseph Banks, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, am ei hymdrechion ac fe hysbysodd aelod o’r Gymdeithas Frenhinol, Lewis Weston Dillwyn, oedd yn rhedeg crochendy’r Cambrian yn Abertawe. Bu Dillwyn wrthi yn cynllunio cynhyrchu porslen, ac ymwelodd â’r gwaith yn Nantgarw, lle daeth i’r casgliad mai’r odyn oedd yn achosi’r llestri dorri. Trefnodd i sefydlu odynau newydd yn Abertawe gyda Samuel Walker.
Ym 1815, gwnaed arbrofion i gryfhau porslen Billingsley a Walker heb leihau’r gwynder a’r tryloywder. Cynhyrchwyd cyrff cymysg a rhai wedi’u llosgi â chalch o 1815 ymlaen. Yr oedd y cyntaf yn debyg i Tsieni Esgyrn, oedd yn prysur ddod yn rysáit safonol bryd hynny ym Mhrydain, er ei fod wedi cymysgu â Chlai Glas neu Galch - Wy Hwyaden yw’r enw ar y math mwyaf cyffredin, gan fod iddo naws werdd. Mae corff wedi ei galchosgi â llaw yn cael ei ddisgrifio fel "gwydrog", tra bo amrywiad gyda mwy o sebonfaen ac sy’n felyn dryloyw yn cael ei alw’n "Trident", oherwydd y marc tryfer sydd arno yn aml. Nid oedd hwn yn boblogaidd gyda’r addurnwyr yn Llundain, a pherswadiwyd Dillwyn i roi’r gorau i’r prosiect ym 1817.
Dychwelodd Billingsley a’i deulu wedyn i Nantgarw, eto gyda chefnogaeth Young, ac yno y buont yn gweithio hyd at 1820 pryd y rhoesant gorau i’w prosiect a mynd i Coalport, lle croesawyd hwy gan John Rose: yr oedd ei werthiant ef wedi disgyn dan effaith porslen Cymru.
Wedi i Billingsley a Walker adael (roedd dwy ferch Billingsley wedi marw erbyn hyn) cyflogodd Young wr enwog, Thomas Pardoe, a fu’n gweithio ym Mryste, i addurno llawer o borslen gwyn a oedd mewn stoc. Parhaodd y gwaith hwn am ryw dair blynedd.
Bu farw Thomas Pardoe ym 1823 ac ym 1832, prydleswyd gwaith Nantgarw gan ei fab William Henry, a’i ddatblygu fel crochenwaith llestri pridd, lle gwnaed pibelli clai, poteli pridd a llestri pridd coch a brown hyd at yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Parhaodd y teulu i fyw yn y tŷ hyd at 1972, pryd y torrwyd i mewn iddo. Cymerwyd y tŷ drosodd gan Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Tâf, ac mae bellach ar agor i’r cyhoedd fel amgueddfa.
Cred llawer o bobl fod Billingsley wedi gwireddu ei freuddwyd. Ac ar waethaf colledion enfawr trwy’r llestri yn torri (weithiau cyn uched a 90%), cynhyrchwyd llawer iawn o borslen cain eithriadol. Yn wir, bron gynted y caeodd Nantgarw, cydnabuwyd fod y porslen yn hardd dros ben. Nododd "The Cabinet of Useful Arts" ym 1832: "Since the discontinuance of this establishment, the excellent quality of its ware has been more justly estimated and the prices now given by amateurs and collectors for pieces of "Nunngarrow" porcelain are out of all proportion greater that originally demanded by the makers".