Prynwyd Plas Glyn y Weddw a darnau eraill o dir gan Solomon & F. E. Andrews pan werthwyd rhan o Ystâd Fadryn ar 11/12 Awst, 1896.
Estynnwyd y dramwyfa geffyl ar hyd y twyni o Bwllheli i giatiau Glyn-y-Weddw. Adnewyddwyd y Plas fel oriel gelf a chodwyd tô dros glos y stablau i greu neuadd dawnsio a ddefnyddiwyd hefyd fel ystafell de.
Daeth tripiau tram i Lanbedrog yn rhan annatod o wyliau ym Mhwllheli, gyda’r ymwelwyr yn lolian ar draeth Llanbedrog neu’n ymweld â’r Plas a’i erddi. Hefyd roedd ymwelwyr yn pentyrru i’r dawnsfeydd nos a drefnwyd gan F. E. Young yn y Plas.
Adeiladu 'West End' Pwllheli
Pan oedd Solomon Andrews ar ei wyliau yn Llandudno yn ystod yr haf, 1893, sylwodd ar hysbyseb yn datgan arwerthiant tir ym Mhwllheli a phenderfynodd mynd i gael cipolwg ar y tir hwnnw. Pryd hynny roedd gorsaf y rheilffordd ar gyrion Pwllheli, ac wrth ddod o’r trên, nid oedd Solomon Andrews yn hapus gyda’r hyn a welodd; gofynnodd am amser y trên nesaf i adael Pwllheli! Ond roedd rhaid iddo aros am ddwy awr ac felly aeth am dro ar hyd y Cob i Victoria Parade. Roedd yn ddiwrnod braf a dotiodd Solomon Andrews a’r lle – a phedair cenhedlaeth o’i deulu ers hynny. Prynodd y tir gyda’i fab a’i bartner, Emile, ac aethant ati i’w ddatblygu’n ddi-oed.
Prynwyd mwy o dir yn ystod y blynyddoedd canlynol, gan gynnwys rhan o ystâd Madryn yn Llanbedrog. Anfonwyd rhai o’i dim o adeiladwyr o Gaerdydd i arolygu’r datblygiadau. Rheolwr yr adeiladu oedd Thomas Cunningham oedd hefyd yn gyfrifol am godi’r Farchnad yng Nghaerdydd, sef gwaith datblygu pensaerniol sylweddol cyntaf yr Andrews.
Yn 1902, daeth Cunningham yn Beiriannydd Trefol ac Arolygydd Carthffosiaeth Pwllheli. Fforman y gwaith adeiladu oedd dyn o Sir Benfro, Tom Hughes, oedd wedi gweithio i Andrews yng Nghaerdydd a Manceinion. Daliodd Hughes y swydd yma am hanner canrif.
Roedd y tramiau yn rhedeg nes i storm ym 1927
Adeiladu a Rheoli 'West End'
Thomas Cunningham oedd y rheolwr cyntaf ond ar ôl iddo fynd i weithio i Gyngor Pwllheli, daeth F. E. Young, cyn-rheolwr adloniant i Andrews, yn reolwr ystâd - swydd a ddaliodd am 35 o flynyddoedd. Gweithwyr eraill a ddaeth i Bwllheli o Gaerdydd oedd William James Badger, plymiwr, a James Ravenhill, peintiwr.
Tramwyfa
Trefnodd Solomon Andrews les gan Mrs Jones Parry ar chwarel Carreg y Defaid ar gyfer llenwi’r angen am gerrig i adeiladu’r Prom, ffyrdd a thai yn y West End. Sefydlwyd tramwyfa i gario’r cerrig, ond roedd tramiau i gario pobl hefyd arni.
Pan brynwyd Plas Glyn-y-Weddw ym 1896, ehangwyd y dramwyfa at giatiau’r Plas. Roedd y tramiau yn rhedeg nes i storm ym 1927 ddifetha rhan hir o’r trac. Parodd y tramiau rhwng Pwllheli a’r West End am flwyddyn arall, pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am y ffyrdd i’r cyngor a gododd y trac, yn ddi-weledigaeth.
Adloniant
Adeiladwyd y West End fel cyrchfan gwyliau ac yn ystod misoedd yr haf cynhaliwyd amrywiaeth o adloniant. Daeth Fred E.Young yn Reolwr Adloniant ym 1899. Trefnodd ddigwyddiadau ym Meysydd Hamdden, Pwllheli, gan gynnwys cystadleuaeth tenis blynyddol a ddaeth yn ddigwyddiad pwysig. Parhaodd hyd at 1940 a dechreuad yr ail ryfel byd. Yn y blynyddoedd cynnar, trefnwyd cyngherddau ac adloniannau eraill yn yr Assembly Rooms yng nghefn Gwesty’r West End, Pwllheli. O 1921 ymlaen, symudwyd y digwyddiadau hyn i’r Pafiliwn ar draws y ffordd i’r gwesty.
Ym Mhlas Glyn-y-Weddw roedd rhaglen amrywiol o adloniant ar ddechrau’r 20fed Ganrif, gan gynnwys arddangosfeydd o weithiau celf enwogion fel Turner a Gainsborough, dawnsfeydd a pherfformiadau cerddorfeydd. Ar ddyddiau braf byddai’r perfformiadau yn cael eu cynnal ar y lawnt.
S. Andrews a'i Fab
Ganwyd Solomon Andrews yn Trowbridge ym 1835 ac erbyn 1851 roedd yn byw yng Nghaerdydd
Ganwyd Solomon Andrews yn Trowbridge ym 1835 ac erbyn 1851 roedd yn byw yng Nghaerdydd yn brentis i bobydd a gwneuthurwr melysfwyd. Priododd ym 1855 a’r flwyddyn ganlynol cafodd les ar siop yn James Street a dechreuodd ei fusnes ei hun fel pobydd a gwneuthurwr melysfwyd.
Llwyddodd ei fusnes ac ym1863 ehangodd ei fenter ac aeth o nerth i nerth. Y flwyddyn honno cafodd drwydded i redeg cab; ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd ganddo naw cerbyd, ac erbyn 1873 tri-deg-pump, sef traean o’r holl gerbydau trwyddedig yng Nghaerdydd.
Yn Rhagfyr 1867 roedd un bws yn cael ei dynnu gan geffylau ganddo; erbyn 1875 roedd ganddo saith, tua hanner y bysys trwyddedig yng Nghaerdydd. Ym 1872, prynodd fusnes adeiladu a thrwsio coetsis o bob math, gan gynnwys bysys. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd fenter tramiau ceffyl redeg yng Nghaerdydd. Ehangwyd y leiniau ym 1879, gan achosi ‘rhyfel’ rhwng y cwmnïau bysys a’r tramiau.
Ehangodd Andrews yr anghydfod drwy weithredu yn Plymouth a Portsmouth – lle’r oedd y cwmni tramiau yn gweithredu hefyd. Syrthiodd enillion y cwmni tramiau yn enbyd; nid oedd yn bosibl iddynt dalu buddran i’w buddsoddwyr a gorfodwyd iddynt drafod y sefyllfa ag Andrews. Ymatebodd drwy gynnig prynu’r cwmni! Yn y diwedd daeth y ddau gwmni i gytundeb, gydag Andrews yn gwerthu ei fusnes bysys yng Nghaerdydd, Portsmouth a Plymouth am elw sylweddol, gan ddal ei afael ar y rhai a redai o Gaerdydd i Benarth a Llandaf.