Daeth Cyfeillion yr Oriel i fodolaeth yn ystod 80’au y ganrif ddiwethaf dan ofal Dafydd a Gwyneth ap Tomos. Erbyn hyn mae rhyw 1200 o aelodau yn ei wneud yn un o gyrff Cyfeillion Amgueddfeydd ac Orielau mwyaf yng Nghymru.
Cymdeithas wirfoddol yw’r Cyfeillion ac mae yn elusen gofrestredig. Ei brif nod yw codi arian ar gyfer yr Oriel. Rhoir cefnogaeth i gynnal arddangosfeydd ynghyd a darparu aelodau ar gyfer gwaith gwirfoddol fel derbynyddion, swyddogion oriel, garddwyr a threfnwyr blodau. Bydd aelodau hefyd ar gael i roi sgyrsiau am yr Oriel.
Mae’r Cyfeillion yn trefnu ymweliadau cyson i amgueddfeydd ac orielau eraill, ac yn cynnal cyngherddau a darlithoedd ar gelf a phynciau diwylliannol. Mae pwyllgor y Gymdeithas yn cyfarfod fel bo’r angen gydag aelodau hefyd yn eistedd ar fwrdd rheoli’r elusen sy’n rhedeg yr Oriel o ddydd i ddydd.
Mae’r Cyfeillion wedi bod yn aelod o Gymdeithas Brydeinig Cyfeillion Amgueddfeydd (BAFM) ers y flwyddyn 2000.
Be’ am wario £10 (unigolyn) neu £14 (aelodaeth ar y cyd, i ddau yn byw yn yr un cyfeiriad) er mwyn ymuno â Chyfeillion Oriel Plas Glyn y Weddw.
Fel aelod, fe gewch:
Ni fyddai Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn bodoli heb gyfraniad pwysig y Cyfeillion - ymunwch heddiw i gadw’r Oriel hon yn agored i bawb.
Mae’r Cyfeillion yn ased ac yn garfan bwyso pwerus wrth i’r nifer o aelodau gynyddu.
Printio ffurflen gais i ymaelodi
Ymuno a’r rhestr bost electronig