RAFFL FAWR y Cyfeillion

Gareth Parry: Wyddfa, Medi

Wyddfa, Medi

Yn flynyddol bydd Cyfeillion Plas Glyn-Y-Weddw yn cynnal raffl fawr sydd yn rhoi cyfle i chi ennill gwaith gwreiddiol gan un o brif artistiaid Cymru.

Yn garedig iawn eleni mae Gareth Parry wedi rhoddi llun i’r Cyfeillion ar gyfer y raffl. Fel y gwyddoch o bosib, mae gwaith Gareth yn denu diddordeb mawr, gyda chasglwyr o’i waith o bedwar ban byd.

Mae Gareth Parry yn gefnogwr brwd o Blas Glyn-y-Weddw ac rydym yn ddiolchgar dros ben iddo am ei rodd haelionus. Mae derbyn gwaith gwreiddiol gan beintiwr o’i safon yn hwb mawr i’n hymgyrch codi arian eleni.

Fe welwch bortread o’r llun sydd wedi ei roi ar y wefan hon - mae siawns i chi felly ennill un o weithiau gwreiddiol Gareth Parry am fuddsoddiad o £5 yn unig. Os yr hoffech brynu tocyn cysylltwch â Peter neu Sheila Davies ar y dolenni e-byst isod. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod cyngerdd Nadolig y Cyfeillion ym mis Rhagfyr.

Tudalen Gareth Parry

peter@oriel.org.uk | sheila@oriel.org.uk

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top