Prosiect Cyfnewid Artistiaid Tir

Galwad am geisiadau ar gyfer rhaglen Artistiaid Preswyl

Prosiect Cyfnewid Artistiaid Tir

Crynhoad o’r Prosiect a Ffurflen Gais

Prosiect Cyfnewid Artistiaid Tir

Pwrpas Prosiect Cyfnewid Artistiaid TIR yw dyrchafu gwaith artistiaid gweledol sydd yn siarad iaith gynhenid Geltaidd, neu sydd â gwybodaeth ohoni, drwy raglen Artistiaid Preswyl. Mae’n ofynnol i’r artistiaid a gaiff eu dewis fyw mewn ardal lle siaredir iaith Geltaidd, yng Nghymru, Iwerddon neu’r Alban.

Thema’r arddangosfa yw TIR, sy’n golygu ‘y ddaear’ neu ‘y pridd’ yn Gymraeg a Gaeleg. Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd y pedwar artist a ddewisir yn cynhyrchu casgliad o waith a fydd yn cael ei arddangos yn y tair gwlad gysylltiedig. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau i’r gymuned yn y lleoliadau dewisol, wedi ei hysbrydoli gan brofiadau diwylliannol cyffredin.

Caiff pob artist lety a stiwdio i weithio ynddi am ddim, ynghyd ag ysgoloriaeth o £5,000. Gall cyfrwng gweithio’r artistiaid gynnwys cerflunwaith, paentio, printiau, celf ddigidol, amlgyfrwng, ffotograffiaeth a ffilm neu fideo. Bydd stiwdio ar gael i’r artistiaid yn ddyddiol a disgwylir iddynt weithio am o leiaf ugain awr yr wythnos. Disgwylir iddynt hefyd gymryd rhan mewn rhaglen gymunedol leol gydag ysgolion a grwpiau eraill.

Amserlen a lleoliad

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 19 Rhagfyr 2008. Dyddiad cychwyn y cyfnod Artist Preswyl cyntaf fydd Chwefror 2009, a bydd yr olaf yn gorffen fis Tachwedd 2009. Deg wythnos fydd hyd y cyfnod preswyl. Lleolir y stiwdio yn y lleoliadau cysylltiedig ond efallai y bydd angen defnyddio lleoliadau eraill o fewn y rhaglen breswyl.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am Brosiect Cyfnewid Artistiaid TIR a sut i wneud cais am le ar y rhaglen Artistiaid Preswyl, cysylltwch â:
Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw ar 01758 740763 neu gwyn@oriel.org.uk

Crynhoad o’r Prosiect a Ffurflen Gais

Mae copi o’r briff a’r ffurflen gais ar gael hefyd ar wefan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru www.vaw.org.uk/jobs

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top