Arddangosfa Oriel

Arweiniad ar gyfer CYNIGION ARDDANGOS

Diolch am eich diddordeb yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Croesawn gynigion arddangos gan unrhyw artist. Foddbynnag, darllennwch y dudalen hon cyn gyrru’ch gwaith i mewn. Efallai yr hoffech ystyried pa fath o oriel yw Oriel Plas Glyn-y-Weddw, a’r math o waith a arddangosir yma.

Arddangosiadau yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw

  1. Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn cynnal saith arddangosfa y flwyddyn.
  2. Rhan amlaf bydd 3-4 artist yn arddangos ar unrhyw amser ynghyd a gwaith Artistiaid yr Oriel.
  3. Dim ond nifer fechan o’r holl gynigion a dderbynnir fydd yn cael eu harddangos.
  4. Bydd yr arddangosfeydd yn cael eu rhaglennu tua blwyddyn a hanner o flaen llaw.
  5. Mae Panel Artistiaid yn cyfarfod yn y Gwanwyn a’r Hydref I helpu’r Cyfarwyddwr a’r Curadur I ddewis ardangoswyr posib y dyfodol.
  6. Oriel Plas Glyn-y-Weddw yw Oriel hynaf Cymru ac rydym felly wedi ymrwymo I gadw safon uchel o waith a arddangosir o fewn yr adeilad pwysig hwn.

Beth i’w yrru

  1. Datganiad byr am eich gwaith.
  2. Llythyr byr yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost.
  3. Amlen wedi ei stampio er mwyn dychwelyd y cynnig.
  4. Eich CV
  5. Delweddau o’ch gwaith. Rydym yn derbyn jpegs digidol (500 dpi fan leiaf) yn unig ar CD neu DVD.
  6. Mae croeso i chi gynnwys unthyw ddefnydd i gefnogi eich cais, ee catalog, taflenni, cardiau arddangosiad preifat,ac yn y blaen.
  7. Os byddwch angen i ni ddychwelyd eich cynnig drwy bost wedi ei recordio neu trwy wasanaeth arbennig gadewch i ni wybod, a gyrrwch yr arian postio perthnasol.
  8. Peidiwch â gyrru gwaith celf gwreiddiol.
  9. Gyrrwch waith o ansawdd uchel sydd yn amlwg yn cynrychioli’r gwaith yr ydych yn ei wneud.

Sylwer

Tra rydym yn cymryd gofal o bob gwaith, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am eu colli na’u difrodi.

Peidiwch â gyrru gwaith celf gwreiddol. Gall gymryd rhai wythnosau neu hyd yn oed fisoedd i ystyried eich gwaith.

Byddwch yn amyneddgar. Byddwn yn ei ddychwelyd mor fuan ag sydd bosib.

Cysylltwch â

Gwyn Jones, Cyfarwyddwr neu Mari Lewis-Jones, Curadur
» Ffurflen Ymholi

Printio'r arweiniad Printio'r arweiniad

Cysylltu

I gysylltu â ni defnyddiwch:

» Ffurflen Ymholi

» Tudalen Gysylltu

» Ymwadiad Safle

© Oriel Plas Glyn-y-Weddw 2008

Top