Acwatint/Lliw Dwr
Dull o argraffu sydd yn galluogi cynhyrchu graddiadau tôn anghyfyngedig er mwyn ail greu yr arlliw llydan, gwastad, a geir gyda darluniau golch inc a dyfrlliw, drwy ysgythru craciau a phantiau i’r ddelwedd ar y plat gwreiddiol sydd, fel arfer, wedi ei gwneud gyda chopr neu sinc. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o waith graffig Goya, yr artist Sbaenaidd (1746-1828) gan ddefnyddio’r dull yma.
'Blind'
Argraffu trwy ddefnyddio plat ddigyswllt i gynhyrchu y gwead boglynnog ysgafn o ddelwedd golau wedi ei oleubwyntio gan gysgod y ddelwedd gerfweddol ar y papur digyswllt. Defnyddir y dull yma mewn nifer o brintiadau Siapaneaidd.
Colagraff
Dull o argraffu lle mae proflenni yn cael eu tynnu oddiar flocyn a ddefnyddiwyd i adeiladu’r dyluniad neu’r celfyddyd fel collage, gan greu cerfwedd.
Sychbwynt
Dull o argraffu drwy ysgythru intaglio, sef defnydd o nodwydd ddur, galed I ricio llinellau ar blat fetel gan greu yml arw sy’n cynhyrchu llinell felfedaidd, feddal ar yr argraffiad terfynol.
Engrafu
Dull o argraffu lle defnyddir ysgythru intaglio i gynhyrchu delwedd trwy dorri plat fetel neu flwch yn uniongyrchol gydag erfyn miniog. Mae’r rhiciau wedi eu cysylltu ac yn cael eu hargraffu gyda phwys cadarn.
Ysgythru
Dull o argraffu lle gorchuddir plat fetel gyda defnydd gwrth-asidig I ddechrau, yna gweithio gyda nodwydd ysgythru I greu delwedd intaglio. Caiff y metal â ddatgelir ei fwyta mewn baddon asid gan greu rhiciau, a rhoddir inc yn rhain ar gyfer argraffu. Credir I’r dull yma gael ei ddatblygu gan Daniel Hopfer (1493-1536). Rhagorodd ysgythru ar engrafu fel celfyddyd graffig mwyaf poblogaidd yn ystod blynyddoedd mwyaf cynhyrchiol Rembrandt a Hercules Segher yn y 17eg ganrif, ac mae’n parhau I fod y dull o argraffu mwyaf amlbwrpas a chynnil hyd heddiw.
'Iris' neu 'Giclee'
Dull atgynhyrchu cyfrifiadurol lle ceir y ddelwedd o ffeil ddigidol a’i hargraffu gyda argraffydd chwistrell gan ddefnyddio inc, acrilig neu baent olew. Mae argraffu Giclee yn cynnig y safon uchaf mewn manylder a chyfoeth lliw sydd yn bosibl mewn unrhyw atgynhyrchiad.
Lithograff
Dull o argraffu trwy ddefnyddio proses planograffig lle mae printiadau yn cael eu taenu ar wasgydd arbennig oddiar garreg wastad neu arwynebedd metal sydd wedi ei sensiteiddio fel bo’r inc yn glynnu i’r dyluniad yn unig, ac yn cael ei wrthod gan yr arwynebedd tu allan i’r dyluniad. Dyfeisiwyd Lithograffi ym 1798 yn Solnhofen, Yr Almaen gan Alois Senefelder. Defnyddiwyd Lithograffi yn y blynyddoedd cynnar gan artistiaid Ffraneg adnabyddus megis Daumier a Delacroix, ac yn ddiweddarach gan Degas, Toulouse-Lautrec, Picasso, Braque a Miro.
Mesotint
Proses o engrafu tu-chwith a ddefnyddid ar blât gopr neu ddur i gynhyrchu darlun cerfweddol gyda effaith goleuni a chysgod oedd Mesotint. Roedd arwyneb y plât gwreiddiol yn cael ei garwhau gydag erfyn a elwid yn ‘rocker’ fel bo canlyniad rhoi inc arni yn peri argraffiad du solet. Roedd y rhannau oedd i aros yn wyn neu lwyd yn yr argraffiad yn cael eu rhwbio fel bo’r inc yn cael ei wrthod. Defnyddid y dull yma yn eang yn y 18ed a’r 19eg ganrif i atgynhyrchu portreadau a phaentiadau eraill, ond aeth i’r gwellt gyda chyflwyniad ffotoengrafu.
Monoteip
Argraffiad unigryw a wneir ar ddalen o fetel neu wydr. Yna trawsffurfir y paent tra yn dal yn wlyb i ddalen o bapur gyda llaw neu wasg ysgythru. Os bydd digon o baent ar ôl ar y plât gwreiddiol, gellir gwneud argraffiadau ychwanegol, ond mi fydd gwahaniaethau sylweddol i’r ddelwedd gyntaf. Nid yw monoteip yn ddull atgynhyrchu lluosog gan fod pob argraffiad yn unigryw.
Lithograffi 'Offset'
Dull ffotomecanyddol arbennig lle mae’r ddelwedd sydd i’w brintio yn cael ei drosglwyddo i’r platiau negative cyn ei argraffu ar bapur. Mae’r dull yma yn addas iawn ar gyfer argraffu lliw.
Argraffu â Sgrin Sidan - Serigraff
Dull sy’n ganrifoedd oed sy’n tarfu o Tsieina. Mae sgrin yn cyfateb i bob arlliw o inc fydd yn ymddangos ar y papur, canvas neu ddefnydd terfynnol. Rhoddir yr inc ar sgrin, a bydd yn trosglwyddo i’r papur trwy’r tyllau yn unig. Rhaid creu sgrin ar wahan i bob lliw. Ar gyfartaledd, defnyddir rhwng 80 a 100 sgrin i greu un serigraff, a chymer pob argraffiad oddeutu 8 wythnos i’w gwblhau. Bydd 4 neu 5 o bobl yn ymwneud â’r broses ac mae 80-90% o’r amser cynhyrchu wedi ei ymroddi i wneud y rhaniadau lliw a’r sgriniau.
Diwygio
Bydd yr artist yn adolygu yr argraffiad gan ail-baentio neu dacluso mannau arbennig.
Troslun Canfas
Mae’r print (neu lithograff) yn cael ei chwistrellu neu ei orchuddio gyda cyfansoddyn cemegol. Pan fydd wedi sychu, gorchuddir y print gyda toddiant cemegol arall sydd yn gwahanu y papur oddiwrth yr inc. Mae’n hanfodol bod yn ofalus pan yn tynnu’r papur gan y gall effeithio ar y cynnyrch terfynnol.
Argraffiad
Y rhif awdurdodedig o brintiadau a gynhyrchir. Mae’r argraffiad yn cynnwys y printiadau rhifedig I gyd, ‘artist’s proof’ (a.p.) ‘hors de commerce examples’ (H.C.) a ‘printer’s proof’ (P.P.)
'Remarque'
Dyluniad gwreiddiol gan yr artist wedi ei baentio ar yr argraffiad cyfyngedig.