Profiad Bythgofiadwy
Bu i ymgyrch codi arian blynyddol Cyfeillion Oriel Plas Glyn Y Weddw am 2008 fynd ymhell heibio’r disgwyl! Fe godwyd dros £40.000, gyda phob ceiniog yn mynd tuag at gynnal a gwella perfformiad un o orielau harddaf Gymru.
Roedd Cerdlun 2008 yn llwyddiant oherwydd ymrwymiad cannoedd o artistiaid, enwogion a chefnogwyr yr oriel, gyda nifer ohonynt erioed wedi bod mewn cysylltiad â’r Plas yn y gorffennol, ond yn barod iawn eu cymwynas yn ôl y gofyn. Adlewyrchwyd hyn drwy roddion gan y bobl prysuraf yn ein mysg, fel Bryn Terfel, Connie Fisher, Hywel Gwynfryn a Nia Roberts, Jonsi, Trebor Edwards, Dafydd Iwan ayyb. Cafwyd cefnogaeth hael iawn hefyd gan glybiau celf dros y ffin yn Lloegr - clybiau fel y Salford Art Group, dan arweinyddiaeth Pat Bellotti, yn gyrru celf o’r safon uchaf i Gymru i’n cefnogi. Roedd rhai o’r ymatebion hefyd yn taro’r galon; rhai fel “..yn anffodus rwyf yn ymgymryd â chwrs chemotherapi ar hyn o bryd, felly heb yr amser i gwblhau’r gwaith celf ond yn hytrach yn gyrru siec o £25 i’ch cefnogi…” Cymaint o gefnogaeth hael, cymaint o bobl ffeind!
Roedd tocynnau'r noson agoriadol ar nos Sadwrn, Gorffennaf y 26ain, wedi gwerthu allan ym mis Ebrill, gan adael nifer o gyfeillion siomedig oedd wedi methu a chael tocyn mewn amser. Roedd y noson yn berffaith ar ran y tywydd. Yn dilyn gwïn a chanapés fe ddaeth cychwyn ar y sbri gydag ocsiwn o 11 Cerdlun wedi eu fframio. Ymhen 10 munud roedd yr Ocsiwnïar, John Huw o Mart Bryncir wedi hel dros £7,000 (gan roi o’i wasanaeth arbenigol yn rhad ac am ddim - diolch John!). Yna death tro ar werthu cyfraniad Jack Vettriano, y braslun ‘Breuddwydyn Hardd’, roddwyd gan yr artist drwy help a pherswâd un o’r cyfeillion, Jean Bellamy. Roedd cryn sylw wedi ei roi drwy hysbyseb yn y Daily Telegraph a’r wasg yn gyffredinol. Fe aeth y ceisiadau am y Vettriano heibio pob disgwyl, gyda gŵr ar y ffôn o Aberdeen yn cystadlu â chefnogwr brwd o’r oriel yn y neuadd hyd at £21,500. Fe’i gwerthwyd yn y diwedd i’r gŵr oedd yn bresennol ar y noson am £22,000 - pris anhygoel am fraslun.
Roedd yn rhaid wedyn chwilio am egni i ddod a’r byrddau allan gan gychwyn ar y gwerthiant o Gerdluniau am £25 yr un. Gwerthwyd 500 o’r 1,000 o fewn y ddwy awr gyntaf, gyda’r prynwyr yn dyfalu trwy dast personol, cyn cael gwybod ar ôl talu pwy yn union oedd wedi gwneud y gwaith. Felly y bu hi am y deuddydd olynol, gyda channoedd yn cymeryd mantais o fynediad am ddim i’r arddangosfa.. Mae’r gwaith oedd ar ôl heb ei werthu yn dal i gael ei arddangos, a’i werthu yn yr oriel heddiw.
Roedd Cerdlun 2008 yn llwyddiant ysgubol mewn sawl ffordd. Fe godwyd arian tuag at gynnal a chadw, ond hefyd bu i’r digwyddiad ddenu diddordeb newydd a chodi proffil yr oriel. Rydym ni i gyd fel gwirfoddolwyr yn hynod falch o’r oriel, mae’n le arbennig iawn. Bu i nifer o bobl gael y cyfle i arddangos gwaith am y tro cyntaf sydd yn cyd-fynd a gweledigaeth yr oriel i gyflwyno celf i at gyrraedd pawb. Mae cymaint o bobl wedi cysylltu i ganmol a diolch yn ddiweddar a chymaint eto wedi gofyn i ni ‘pryd mae’r Cerdlun nesa?’ Diolch yn fawr i bawb am wneud Cerdlun 2008 yn ddigwyddiad bythgofiadwy.
Elfryn a Brenda Lewis, Prif drefnwyr ar ran Cyfeillion Oriel Plas Glyn-Y-Weddw, Awst 2008
Noson o Ddathlu Gwirfoddolwyr:
Ar nos Lun 7fed o Hydref gwahoddwyd holl wirfoddolwyr Oriel Plas Glyn-y-Weddw i ddod draw i'r Plas am noson o hwyl. Darparwyd bwyd blasus gan Ian a Lorna o Caffi'r Oriel a cafwyd cryn dipyn o hwyl, diolch i ganeuon MamaMia a masgiau Brenda!!
Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle i ymddiriedolwyr yr oriel dsdiolch i'r gwirfoddolwyr am yr holl waith caled a gyflawnir drwy gydol y flwyddyn ac yn enwedig drwy ymgyrch Cerdlun eleni. Dywedodd Llywydd y Cyfeillion Arnol Kammerling MBE "fod yr aclysur hwn wedi profi bod gwir ymdeimlad yn cael ei ddangos tuag at y Plas gan nifer iawn o bobl".
Ychydig o luniau
Cerdlun 2008: Datganiad Cerdlun | Cerdlun Dienw i Godi Arian at yr Oriel | Artistiaid Cerdlun
Gwybodaeth Ychwanegol