Gorffennaf 2008
Manylion Pellach: 01758 740763
* Bydd y gwaith a roddir yn cael ei arddangos a’i werthu yn Oriel Plas Glyn-Y-Weddw, gan gychwyn gydag agoriad arbennig ar nos Sadwrn y 26ain o Orffennaf, 2008. Bydd gwîn a chanapés yn cael ei weini. Bydd mynediad i’r arddangosfa drwy docyn yn unig gyda lle i 200 o bobl. Y gost mynediad ar y nos Sadwrn fydd £10. Bydd yr arddangosfa yn parhau ar nos Sul y 27ain o Orffennaf.
Bydd y gwaith i gyd yn aros yn ei le hyd at y 29ain o Orffennaf er mwyn rhoi cyfle i bawb gael gweld yr arddangosfa. Ar ôl y dyddiad yma bydd y gwaith sydd heb ei werthu yn cael ei osod ar wefan yr oriel ac o fewn y siop yn y Plas gyda tharddiad y gwaith yn parhau i fod yn ddirgelwch hyd y prynir y darn. Bydd Tŷ Bwyta safonol yr Oriel ar agor drwy gyfnod yr arddangosfa.
Mae dogfen electronig yn esbonio Cerdlun mewn manylder ar gael yn y Gymraeg neu Saesneg.
» Gwybodaeth bellach ynglŷn â llun Jack Vettraino 'Hysbyseb y Telegraph'
Ocsiwn 'Cerdlun' ar noson agoriadol:
|
Breuddwydun Hardd - Jack Vettriano £22,000 |
'Sgidiau'r peintiwr - James A Williams £400 |
Braslun - David Williams-Ellis £1,025 |
Bugail rhwng drain a cherrig - Keith Bowen £700 |
Castell Caernarfon Castle - William Selwyn £1,650 |
Dydd Llun - Mike Jones £750 |
Hel clecs - Karel Lek £600 |
Ty'r ysgol Cwm Pennant - Wynne Jenkins £750 |
Commins Coch - Wendy Murphy £680 |
Am dro hefo wil - Gareth Parry £850 |
Caffi Kerfoot - Colin Palmer £400 |
Gwaith 'Cerdlun' ychwanegol ar gael:
Cerdlun 2008: Datganiad Cerdlun | Cerdlun Dienw i Godi Arian at yr Oriel | Artistiaid Cerdlun
Gwybodaeth Ychwanegol