Mae mynediad lawn i bawb i Oriel Plas Glyn-y-Weddw. Tu cefn i’r adeilad mae safle parcio i rai gydag anableddau gyda mynediad i gadair olwyn drwy ddrws cefn yr Oriel.
Mae OPGYW wedi ymrwymo i gynnig mynediad i bawb, drwy addo:
Polisi Anabledd Oriel Plas Glyn-Y-Weddw
1. RHAGARWEINIAD
Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn cydnabod oblygiadau’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. O ganlyniad lluniwyd y Polisi a’r Cynllun Gweithredu hwn. Wrth lunio’r polisi rhoddwyd ystyriaeth i gyngor gan sefydliadau perthnasol ac i ganllawiau amgueddfeydd ac orielau.
2. DIFFINIAD
Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn cadarnhau’r diffiniadau a ganlyn o’r term "pobl ag anabledd":-
"Mae cymdeithas yn gwneud pobl yn anabl drwy osod rhwystrau yn eu ffordd. Mae’r rhain yn amrywio o rwystrau corfforol, synhwyraidd neu gysylltu i rai o ran agwedd." [Diffiniad cymdeithasol]
"Amhariad meddyliol neu gorfforol sydd yn cael effaith andwyol sylweddol a thros dymor hir ar allu’r plentyn i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd". [Diffiniad Meddygol].
3. Y POLISI ANABLEDD
Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn amcanu at gyflawni'r canlynol:
3.1 Penodi uwch aelod dynodedig o’r staff i fod â chyfrifoldeb am waith yn y maes hwn, sef Cyfarwyddwr yr Oriel.
3.2 Cydymffurfio â pholisi’r Oriel ar Gyfle Cyfartal i staff anabl, er mwyn cydnabod eu hawl i fod â rhan lawn yng ngwaith y cwmni rheoli.
3.3 Anelu at gyfleoedd cyfartal i ymwelwyr a defnyddwyr anabl er mwyn cydnabod eu hawl i fod â rhan lawn yng ngwaith y cwmni rheoli.
3.4 Sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yr Oriel yn ymwybodol o’r polisi ac yn deall eu cyfrifoldebau i’w weithredu.
3.5 Bydd cwynion ynghylch materion anabledd yn dilyn trefn gwyno arferol yr Oriel, ond gydag ymgynghori â’r aelod staff dynodedig.
3.6 Bydd y Polisi Anabledd ar gael ar gais i unrhyw un yn y fformat priodol ac ar safle Wê yr Oriel – www.oriel.org.uk.
3.7 Sicrhau bod yr Oriel yn cadw i fyny â deddfwriaeth, canllawiau a therminoleg cyfredol.
3.8 Cydymffurfio â deddfwriaeth adeiladu (yn cynnwys addasiadau i adeiladau) ynghylch gofynion pobl anabl.
4. CYNLLUN GWEITHREDU
4.1 Archwiliadau Safle: Gwneud archwiliadau safle fydd yn cynnwys pob agwedd ar ofynion pobl ag anabledd. Gwneir hyn mewn ymgynghoriad â phobl ag anabledd a’u sefydliadau. Bydd yr archwiliad hwn yn tanlinellu meysydd y mae angen eu gwella ac yn ein cynorthwyo i osod targedau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth.
Y nod fydd gwella mynediad deallusol, corfforol a synhwyraidd i’r casgliadau a’r cyfleusterau i aelodau’r cyhoedd ac i staff sydd ag anabledd, lle bynnag bo hynny’n bosib. Gwneir hyn drwy wasanaeth cynhwysfawr yn hytrach na thrwy wasanaeth anghenion arbennig, onibai fod y bobl sydd ag anabledd yn dymuno hynny.
4.2 Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth: Sicrhau bod y staff yn ymwybodol o’r polisi a chyflwyno hyfforddiant er mwyn gweithredu’r polisi trwy gyrsiau mewnol a rhai eraill.
4.3 Cyflwyno Gwybodaeth: Sicrhau bod defnydd cyhoeddusrwydd a defnyddiau eraill a ddosberthir wedi rhoi ystyriaeth i anghenion pobl ag anabledd e.e. maint testun priodol, defnyddio lliwiau ac anelu at wella defnydd cyhoeddusrwydd drwy gynnwys gwybodaeth i helpu pobl sydd â gwahanol fathau o anabledd, gyda rhif cyswllt ar gyfer ymholiadau penodol. Gellir defnyddio symbolau pan fo lle yn brin i ddangos sut gellir cael gwybodaeth lawn.
4.4 Sicrhau bod arddangosfeydd, digwyddiadau a.y.b. yn ystyried gwaith pobl ag anabledd ac yn adlewyrchu eu rôl yn y gymdeithas. I’w ymgorffori wrth gynllunio arddangosfeydd, digwyddiadau a.y.b.