English (United Kingdom)

Artistiaid yr Oriel

Colour-Head

Therese Urbanska

Graddiodd Therese Urbanska o Goleg Menai yn 2004 – un o'r graddedigion cyntaf ar gwrs gradd newydd Celf Gain yn y Coleg mewn partneriaeth â NEWI Wrecsam. Daeth i'r brig fel Artist Ifanc yng Nghystadleuaeth 'Hud a Lledrith Llŷn' 2004 yma yn Oriel Plas Glyn y Weddw gyda darlun amlgyfrwng o'r enw 'Dacw'r Bwthyn Gwyn'

 

Yn gynnar yn 2009, bu Tess yn ffodus iawn i gael ei dewis yn un o'r artistiaid i gymeryd rhan yn y prosiect 'TIR', a gafodd ei drefnu gan Oriel Plas Glyn-y-Weddw a threuliodd 10 wythnos fe Artist Preswyl ar Inis Oirr, un o ynysoedd hardd yr Aran oddiar arfordir Gorllewinol Iwerddon.

Yno cafodd brofiad o dywydd eithafol sy'n nodweddiadol o fywyd ynys, a daeth moroedd ac wybrennau dramatig yn rhan o fywyd dyddiol, a roddwyd o'r neilltu yn ei hisymwybod. Pan ddychwelodd Tess i Gymru, bu i'r profiad gael effaith dwfn ar ei gwaith a dechreuodd ganolbwyntio ar y moroedd ac wybrennau dramatig sy'n niferus o amgylch arfordir Llŷn.

Datganiad Arddangosfa TIR: "Cefais fy nhrochi mewn tywydd stormus a chyfnewidiol sydd yn rhan dyddiol o fywyd ar ynysoedd. Mynyddoedd o donnau a thirluniau gwyllt yn ddigwyddiadau dyddiol a gafodd eu storio yn fy isymwybod. Pan ddychwelais yn ol i Gymru, cafodd y profiadau effaith dwfn ar fy mheintiadau a dechreuais ganolbwyntio ar arfordir trawiadol Pen Llyn."

Enlli

16 x 20" Acrylig

£560

Countryside Council for Wales CandA lottery w Welsh Government ERDF

Facebook

Twitter

YouTube