Pastoral monument 4 Rosa Canina
Price on application
Helen SearArddangosfa fawr o waith newydd gan Helen Sear yw lure. Mae gwaith Helen, sy'n un o'r bobol fwyaf pwysig a threiddgar yn ei maes, yn cael ei nodweddu gan ei harchwiliad o'r gorgyffwrdd rhwng iaith a chelfyddyd gain, ei sylw ar y byd naturiol, a harddwch syfrdanol ei gwaith. Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae Helen wedi creu corff newydd gwych o waith - ffotograffiaeth, fideo, gosodiadau ffilm a cherflunwaith. Mae hi'n creu gwaith nerthol o bethau syml yr olwg – pwll wedi rhewi, beliau gwellt mewn cae, blodau gwyllt - sy'n archwilio syniadau o weld a chanfyddiad. Yn Pastoral Monument, mae chwyn disylw o ddolydd lleol yn cael eu dyrchafu i statws epig, gyda'r lliwiau llachar yn disgleirio yn erbyn cefndir melfedaidd o dywyll gyda chyfoeth paentiad bywyd llonydd Holandaidd. Yn y ffilm 'lure' sy'n rhoi teitl i'r arddangosfa, gwelir grŵp o bobl mewn coedwig, yn aros, er bod y tywydd yn troi yn wlyb, maent yn dal i syllu i'r awyr, yn aros. Y lleoliad yw Canolfan Goedwigaeth Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth a chawn weld mai aros am sesiwn fwydo ddyddiol y cidyll coch y maent. Mae Helen Sear yn byw ac yn gweithio yn Ne Cymru. Yn 2011, hi oedd cyd-enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a hefyd, derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi'n arddangos yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae Helen yn Ddarllenydd mewn Ffotograffiaeth a Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.
Arddangosfa Deithiol Genedlaethol yw lure, sydd wedi'i churadu gan Oriel Davies ac sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r arddangosfa yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn cynnwys gwaith newydd yng nghyfres y 'Pastoral Monuments' wedi eu gwneud yn arbennig i'r Oriel. Ailgynhyrchwyd ei phrintiadau blodau gwyllt fel papur wal, gyda dewis arbennig o wahanol flodau sy'n gweddu i'r amser o'r flwyddyn ac sy'n tyfu'n lleol.
Oriel Plas Glyn-y- Weddw, Llanbedrog, 5 Mai - 30 Mehefin 2013 Bay Art, Cardiff, 25 Mai - 21 Mehefin 2013 Oriel Wrecsam, 3 Gorffennaf - 31 Awst 2013
Pastoral Monument 6 DAUCUS CAROTA 2012 inkjet print http://www.bbc.co.uk/newyddion/22352613 Cliciwch yma i ymweld â gwefan Helen helensear.com
|
|
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |