Mae Iwan Bala yn artist ac awdur sydd yn diddori yn bennaf mewn archwiliaeth o hunaniaeth ddiwylliannol; y diffiniad o 'berthyn' i fangre arbennig; tra hefyd yn parhau i fod yn ddinesydd o'r byd mawr. Mae wedi arddangos yn eang yng Nghymru a thramor, gan gynnwys Mecsico, Hong Kong, Galicia, UDA, Croatia, Yr Almaen, Zimbabwe a Llydaw. Mae'n ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys Here + Now (2003), Offerings + Reinventions (2000), Certain Welsh Artists (1999) a Darllen Delweddau (1999).
"I mi, mater o ddiwylliant yw celf weledol, a modd i ymbalfalu o fewn fy nghefndir a'm gwreiddiau er mwyn darganfod ryw ryddun o oleuni. Bod yn bryfoclyd efallai, a chwestiynu pob sicrwydd ffals a phob eicon a grewyd. Wedi'r cyfan, gwaith dyn yw yr oll a welwn fel hanes a thraddodiad, ac mae yn wledd symudol, yn tyfu ac yn newid efo amser. Arwydd o ddiwylliant cryf yw ei fod yn caniatau ail-ddyfeisio a chwestiynu popeth oddimewn iddo......Man cychwyn yw'r traddodiadau i mi, - enghraifft o hyn yw chwedl Ynys Gwales yn y Mabinogi, sydd wedi tyfu yn y gyfrol 'Hon' i gwmpasu trychineb 09/11 yn ogystal a chyflwr Cymreictod cyfoes. Dwi'n gweld y gwaith fel rhyw lun o 'fapio' fy nheimladau a'm hunaniaeth a Diwylliant".
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Cysylltwch a ni Oriau Agor Wedi cau ar ddydd Mawrth tu allan i wyliau ysgol
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Llanbedrog, Pwllheli
Gwynedd
LL53 7TT
t 01758 740 763
10.00yb - 5.00yh
7 Diwrnod y Wythnos
![]() |
Hawlfraint © 2011 Oriel Plas Glyn-y-Weddw Arts Centre. Rhif VAT Cofretredig: 700 8246 66 | Elusen Gofrestredig: 1070495 | Cwmni Cyf. , Gwarantedig: 02994771 Dylunio : Mwnci Bach |




