Mihangel Arfor Jones
Ganwyd Mihangel Arfor Jones i rieni Cymraeg yn 1940. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar ar fferm fynydd ar derfyn siroedd Morgannwg a Chaerfyrddin. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Loegr lle bu Mihangel yn astudio yng ngholeg Celf Twickenham am 6 blynedd. Rhwng 1961-1982 bu'n paentio a darlunio ar ei liwt ei hun gan wneud amrywiaeth o waith fel hysbysebion, posteri, llyfrau a dylunio ar gyfer cylchgronau.
Roedd ei yrfa fel artist yn cyd-redeg a hyn gan gynnwys portreadau yn bennaf a gwaith comisiwn golygfeydd a diwydiant. Yn ystod y cyfnod yma, dechreuodd ymwneud a dysgu arlunio gan weithio fel darlithydd ar ymweliad ar y dechrau, gan fynd ymlaen i fod yn Brif Ddarlithydd a Phennaeth Cwrs Gradd Anrhydedd yng Nghymdeithas Celf a Dylunio Kent.
Yn ystod y 90au gadawodd addysg er mwyn datblygu ei ddawn ei hun llawn amser o'i stiwdio yn Y Friog, Meirionydd.
Mae gwaith Mihangel o natur goddrychol a cysyniadol ac mae'n mynegi ei hun mewn amrywiaeth o gyfryngau. Mae ei waith presennol wedi ei ddylanwadu gan atgofion a phrofiadau o'i blentyndod.










