English (United Kingdom)

Artistiaid yr Oriel

Colour-Head

Judith Hay

Mae'r lluniau hyn yn seiliedig ar gei cychod newydd ei gau, lle'r oeddwn yn cerdded yn aml efo fy nghi. Tynnwyd fy sylw gan wacter anarferol mewn tref a hefyd roedd yr ychydig offer oedd yn weddill yn sefyll allan. Roedd ymateb y ci hefyd yn rhoi hwb i mi.

Cefais fy magu yn Fife ger aber yr afon Tay, a symudais i Gymru yn 1995 wedi graddio o Aberdeen. Rwyf yn byw yn awr ym Mangor ac yn gweithio ar ddarluniau wedi eu selio ar lefydd y byddaf yn mynd heibio iddynt yn aml, ac yn bwriadu bwrw ymlaen i ddatblygu'r pwnc sy'n fy nenu yn ol dro ar ol tro – y ddaear, fy mhrofiad o gerdded arno, symudiad pobl drosto a'r ffordd mae gwahanol bethau yn cael eu lleoli. Rwyf yn ymddiddori yn y ffordd mae perspectif yn dod i'r amlwg mewn ffotograffau a'r modd mae hyn yn cymharu i'm côf i o sefyll yn y lle neilltuol hwnnw. Mae'r gwaith newydd yn cynnwys rhai o'r bobl oedd yn mynd heibio ar yr adeg honno.

Ers i mi symud i Gymru, rwyf wedi cael seibiant hir o baentio, ac wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio gwahanol ffyrdd a chyfryngau, ond yn ddiweddar, rwyf wedi dychwelyd at fy hoffter o baentio mewn olew.

Batholith

Olew ar ganfas

£650

 

Countryside Council for Wales CandA lottery w Welsh Government ERDF

Facebook

Twitter

YouTube